Parchu gwahaniaethau

Asesiad

Yn eich Asesiad ar gyfer yr Uned hon, bydd gofyn i chi:

  • Esbonio pam mae’n bwysig i barchu gwahaniaethau rhwng unigolion
  • Ddisgrifio sut dylai’r gwahaniaethau yma gael eu parchu

Bydd hyn yn eich helpu i fodloni meini prawf 2.5 a 2.6 ar gyfer yr Uned hon. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y tudalennau sy’n dilyn i’ch helpu gyda rhan yma’r Asesiad.

Pan mae pobl yn debyg i ni, mae’n hawdd iawn i’w derbyn nhw ac i gyd-dynnu gyda nhw. Fodd bynnag, gan ein bod ni’n byw mewn cymdeithas mor amrywiol, mae llawer o wahaniaethau rhyngddon ni ac mae’n bwysig i barchu’r gwahaniaethu yma.

Os nad ydy pobl yn parchu gwahaniaethau, gall arwain at ymddygiad annymunol neu anghyfreithlon. Er enghraifft, gallen nhw sarhau, bwlio neu achosi niwed i eraill oherwydd eu hil, rhyw, crefydd neu nodwedd arall a amddiffynnir.

Trwy barchu gwahaniaethau pobl, rydyn ni’n derbyn bod rhywun yn wahanol a bod ganddyn nhw’r hawl i fod yn wahanol. Does dim rhaid cytuno gyda’u dewisiadau neu eu credoau, ond bod yn oddefgar a’u derbyn heb ragfarn.

Meddyliwch yn gyntaf!

Ydych chi’n gallu meddwl am resymau pam ei fod yn bwysig i barchu gwahaniaethau? Gwnewch rai nodiadau yn y blwch isod cyn symud ymlaen.

Cliciwch yma i weld rhai rhesymau pam ei fod yn bwysig i barchu gwahaniaethau.

Parchu gwahaniaethau pobl

Trwy barchu gwahaniaethau pobl...

  • Gallwn fyw a gweithio gyda’n gilydd yn heddychlon
  • Fydd pobl ddim yn cael eu trin yn annheg
  • Bydd dawn creadigol yn cael ei hyrwyddo – pan rydyn ni’n parchu gwahaniaethau pobl, mae pobl yn teimlo cefnogaeth a goddefgarwch; mae hyn yn magu hyder, ac yn eu galluogi i ddangos eu dawn greadigol heb ofni rhagfarn
  • Gallwn ni ddysgu wrth ein gilydd
  • Gallwn leihau rhagfarn a gwahaniaethu – pan rydyn ni’n parchu gwahaniaethau pobl, rydyn ni’n fwy goddefgar tuag eraill ac rydyn ni eisiau dysgu amdanynt; mae hyn yn ein gwneud ni’n llai tebygol i wahaniaethu neu ddangos rhagfarn tuag at eraill

Nawr cliciwch drwy’r panel isod i weld syniadau am sut allwn ni barchu gwahaniaethau.

  • Osgoi ymddygiad amharchus

    Osgoi ymddwyn mewn ffordd amharchus tuag at eraill – er enghraifft, peidio sarhau, camdrin, niweidio neu wneud hwyl am ben rhywun.

  • Bod yn garedig a goddefgar

    Bod yn gefnogol a chofleidio gwahaniaethau ein gilydd – mae gennym oll yr hawl i fod yn unigryw a pheidio dioddef sarhad neu niwed oherwydd ein credoau, hoffderau neu’n sgiliau.

  • Defnyddio iaith barchus

    Siarad gydag eraill mewn ffordd barchus a chymryd amser i wrando arnyn nhw. Cofiwch fod angen amser a chefnogaeth ychwanegol ar rai pobl pan maen nhw’n cyfathrebu – efallai bod ganddyn nhw anghenion ieithyddol, anghenion dysgu ychwanegol, problemau clyw neu broblemau siarad. Er enghraifft, efallai bydd angen ailadrodd rhywbeth, defnyddio geiriau gwahanol, esbonio rhywbeth, ysgrifennu rhywbeth neu dynnu llun i gyfathrebu.

    Dylech chi hefyd fod yn ymwybodol bod modd dehongli iaith y corff yn wahanol mewn diwylliannau gwahanol, ac mae’n bwysig parchu’r ffiniau yma – er enghraifft, dydy rhai pobl ddim yn hoffi cyffyrddiad corfforol a gall hyn bechu rhai pobl, tra bod eraill yn gweld hyn fel rhan arferol o gyfathrebu.