Cyfleoedd cyfartal mewn cymdeithas

Asesiad

Yn eich Asesiad ar ddiwedd yr Uned hon, bydd gofyn i chi:

  • Ddisgrifio enghreifftiau o gyfle cyfartal o fewn cymdeithas
  • Ddisgrifio enghreifftiau o anghydraddoldeb o fewn cymdeithas

Bydd hyn yn eich helpu i fodloni meini prawf 1.3 ac 1.4 ar gyfer yr Uned hon. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y tudalennau sy’n dilyn i’ch helpu gyda rhan yma’r Asesiad.

Fel y gweloch chi ar y dudalen flaenorol, mae cael cyfle cyfartal yn golygu cael mynediad cyfartal i bethau pwysig yn eich bywyd.

Cliciwch ar y lluniau isod i weld rhai enghreifftiau.

Addysg

Yn y DU, dylen ni gyd gael mynediad cyfartal i addysg, beth bynnag ein hil, rhyw, oed, crefydd neu nodwedd arall a amddiffynnir.

Mae darparwyr addysg (megis ysgolion, colegau, prifysgolion) yn cynnig ystod eang o opsiynau fel eu bod nhw’n bodloni anghenion unigryw pob myfyriwr.

Fodd bynnag, tra bod mynediad cyfartal i addysg gorfodol yn y DU (i blant 5-18 oed), mae mynediad i addysg bellach yn seiliedig ar gwrdd â meini prawf (megis ennill graddau penodol mewn arholiadau).

Cyflogaeth

Mae llawer o ddeddfwriaeth yn bodoli i atal gwahaniaethu yn y gweithle ac i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal.

Er enghraifft, yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, dydy pobl ddim yn gallu gwahaniaethu neu aflonyddu ar eraill yn y gweithle ar sail nodwedd a amddiffynnir. Yn ogystal, mae gan bobl sy’n ymgeisio am swyddi gyfleoedd cyfartal hefyd – does dim hawl gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail rhyw, hil, oed neu unrhyw nodwedd arall a amddiffynnir.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn cynnwys deddfwriaeth benodol yn ymwneud â chyflog cyfartal, sy’n golygu ei fod yn anghyfreithlon i dalu cyflog gwahanol i ddynion a menywod os ydyn nhw’n gwneud yr un gwaith.

Yn ogystal, mae Rheoliadau Amser Gwaith yn gosod cyfyngiadau ar oriau gwaith a lleiafswm cyfnodau gorffwys dyddiol a gwyliau blynyddol. Mae hyn yn helpu sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg yn y gweithle.

Byddwch chi’n dysgu mwy am gydraddoldeb ac amrywioldeb yn y gweithle yn ystod Uned 3.

Gofal iechyd

Dydy darparwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol ddim yn cael gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un. Dydyn nhw ddim yn cael gwrthod trin neu helpu rhywun ar sail nodwedd a amddiffynnir. Dylai’r ffordd mae triniaethau yn cael eu blaenoriaethu a’u darparu fod ar sail gwybodaeth feddygol yn unig. Felly, mae gan bobl gyfle cyfartal i dderbyn gofal meddygol priodol.

Cwsmeriaid

Rhaid i bob busnes ddilyn y gyfraith yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 – gall hyn gynnwys busnesau sy’n gwerthu nwyddau neu’n darparu gwasanaethau.

Mae gan gwsmeriaid hawl i gyfleoedd cyfartal ac ni ddylid gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail nodwedd a amddiffynnir – er enghraifft, caniatau i ofalwyr dywys unigolion gydag anabledd i’r theatr neu’r sinema, neu sicrhau mynediad llawn i adeiladau i unigolion ag anableddau corfforol.

Mae rhai eithriadau i hyn lle gall busnesau ddarparu gwasanaeth ar wahân i grwpiau gwahanol – er enghraifft, siop farbwr i ddynion neu gampfa i fenywod yn unig.

Meddyliwch yn gyntaf!

Ydych chi’n gallu meddwl am enghreifftiau o anghydraddoldeb mewn cymdeithas (pan dydy person ddim yn cael ei drin yn gyfartal neu’n deg)? Ydy hyn wedi digwydd i chi? Teipiwch eich syniadau yn y blwch isod.

Nawr cliciwch i ddarllen rhai enghreifftiau o anghydraddoldeb.

Anghydraddoldeb mewn cymdeithas

Mae gwahaniaethu yn gallu atal pobl rhag gael cyfleoedd cyfartal – er enghraifft:

  • Ysgolion sy’n atal disgyblion rhag fynd ar dripiau ysgol oherwydd anableddau neu’n atal disgyblion o grefydd benodol rhag wisgo eitemau dillad penodol.
  • Menywod ddim yn cael cynnig dyrchafiad yn y gwaith oherwydd gallen nhw adael i gael plant.
  • Menywod yn derbyn cyflog llai na dynion am wneud yr un gwaith.
  • Defnyddiwr cadair olwyn yn methu mynd i mewn i adeilad gan nad oes mynedfa addas.

Ffactorau eraill sy’n gallu arwain at anghydraddoldeb. Er enghraifft:

  • Ble mae pobl yn byw ac yn gweithio – mae pobl sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain yn debygol o gael cyflog uwch ond mae costau byw yn Llundain hefyd yn uwch nag yng ngweddill y wlad.
  • Gall ansawdd gwasanaethau (megis addysg ac iechyd) fod yn wahanol iawn yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw yn y DU – mae rhai ysgolion ac ysbytai yn rhagorol tra bod eraill mewn trafferthion.
  • Gall stereoteip achosi anghydraddoldeb – er enghraifft, yr heddlu yn stopio ceir dynion du ifainc yn fwy aml na dynion gwyn ifainc, neu bobl Mwslemaidd yn cael eu hymchwilio’n amlach mewn meysydd awyr.
  • Gall tlodi arwain at anghydraddoldeb – mae rhywun ar gyflog isel yn llai tebygol o allu fforddio rhai gwasanaethau neu fynychu rhai cyfleusterau na rhywun ar gyflog uwch.
  • Gall person sy’n byw gyda chyflwr iechyd hir-dymor gael anhawster i gael mynediad i rai gwasanaethau – er enghraifft, anhawster corfforol i gael mynediad i rai gwasanaethau, anhawster ariannol i allu fforddio rhai gwasanaethau (os ydy’r cyflwr yn ei atal rhag gweithio ac ennill cyflog) neu fethu cael mynediad oherwydd rhwystr meddyliol (er enghraifft, person yn dioddef o orbryder neu byliau o banig yn cael anhawster i adael y tŷ neu i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau).