Manteision amrywioldeb
Meddyliwch yn gyntaf!
Ydych chi’n gallu meddwl am fanteision amrywioldeb mewn cymdeithas? Teipiwch eich syniadau yn y blwch isod.
Mae’r holl enghreifftiau o amrywioldeb ar y dudalen flaenorol yn dod a nifer o fanteision mewn cymdeithas. Er enghraifft:
- Mae’n ein cyflwyno i ystod eang o brofiadau, gwybodaeth a chyfleoedd
- Mae’n dod â nwyddau a gwasanaethau newydd a gwahanol – meddyliwch am yr amrywiaeth o fwydydd ein bod ni’n mwynhau yn y wlad hon!
- Rydyn ni’n datblygu ystod eang o ffrindiau a pherthnasau.
- Mae’n ein helpu ni i werthfawrogi a pharchu pobl amrywiol
- Mae’n ein hannog ni i fod yn oddefgar, yn hytrach na chasáu neu ofni pethau a phobl sy’n wahanol.
Beth am edrych ar fanteision amrywioldeb mewn mwy o fanylder. Cliciwch drwy’r panel isod i weld sut mae cymdeithas yn elwa o wahanol fathau o amrywioldeb.
-
Diddordebau
Mae dysgu am ddiddordebau gwahanol yn gallu helpu i ehangu diddordebau person. Er enghraifft, os ydy person yn manteisio ar y diddordebau amryiol o fewn cymdeithas, mae’n bosib darganfod rhywbeth newydd fydd o ddiddordeb iddyn nhw – byddan nhw’n cael cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd (efallai o gefndiroedd gwahanol) ac yn darganfod hobïau newydd.
-
Crefydd a chred
Pan mae ystod amrywiol o grefyddau a chredoau o fewn cymdeithas, mae’n helpu pobl i ddysgu amdanynt a deall y gwahanol grefyddau/gredoau. Mae gwell ddealltwriaeth yn arwain at lai o anoddefgarwch – y mwyaf rydyn ni’n gwybod am rywbeth, y lleiaf tebygol ydyn ni i’w ofni neu fod yn anoddefgar tuag ato.
-
Oed
Pan mae ystod o oedran o fewn cymdeithas, gall hyn gyfoethogi profiadau bywyd pobl. Er enghraifft, gall person ddysgu cryn dipyn os ydynt yn gwerthfawrogi sut mae pobl o wahanol oed yn byw bywyd, datrys problemau, cyfathrebu ag eraill neu ddelio â syniadau/profiadau newydd. Gall pobl o wahanol oed rannu gwybodaeth ddefnyddiol hefyd.
-
Hunaniaeth ddiwylliannol
Mae hunaniaeth ddiwylliannol amrywiol o fewn cymdeithas yn cynnig mwy o gyfleoedd i wneud pethau newydd – er enghraifft, gall pobl gael y cyfle i flasu bwydydd newydd, gwrando ar gerddoriaeth wahanol, mynychu gwyliau diwylliannol neu ddysgu am draddodiadau newydd.