-
Diddordebau
Mae ein diddordebau yn ein gwneud ni’n amrywiol (ac yn debyg hefyd). Os ydych chi’n mwynhau mynd i weld gêm bêl-droed, yna byddwch chi’n rhannu’r diddordeb yma gyda nifer o gefnogwyr pêl-droed. Fodd bynnag, byddwch chi hefyd yn wahanol i bobl sydd ddim yn mwynhau pêl-droed.
-
Crefydd a chred
Mae pobl mewn cymdeithas yn dilyn nifer o wahanol grefyddau (er enghraifft, Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth a Siciaeth). Mae’r holl grefyddau yma’n cyfrannu at amrywioldeb.
Does gan rhai pobl mewn cymdeithas ddim cred grefyddol chwaith – er enghraifft, pobl sy’n cadw meddwl agored (maen nhw’n ‘agnostig’) neu y rhai sy’n gwrthod credu ym modolaeth Duw neu dduw (maen nhw’n ‘anffyddwyr’).
Yn ogystal â chred grefyddol (neu ddiffyg cred grefyddol), mae hefyd gan bobl gredoau gwahanol am bethau fel gwleidyddiaeth, addysg, trosedd, perthnasau, ysmygu ac yfed alcohol.
-
Oed
Mae ein hoedran yn cyfrannu at ein hamrywioldeb – bydd gan bobl o wahanol oed ddiddordebau/hobïau gwahanol, byddan nhw’n mynd i lefydd gwahanol, a bydd ganddyn nhw hoffderau a chredoau gwahanol. Mae pobl yn cael eu dosbarthu yn ôl oed – er enghraifft, plentyn, plentyn yn ei arddegau, canol oed, henoed.
-
Ffordd o fyw
Mae nifer o ffactorau gwahanol yn dylanwadu ar ffordd o fyw person– gall hyn gynnwys lle maen nhw’n byw, cyfoeth ariannol, eu hobïau/diddordebau, a’u cefndir teuluol. Mae gan bobl yn y DU nifer o wahanol ffyrdd o fyw sy’n gwneud y wlad yn un amrywiol.
-
Nodweddion personol
Mae ein nodweddion personol yn ein diffinio. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Ymddangosiad – megis lliw llygaid, lliw gwallt, lliw croen
- Anableddau neu amhariadau
- Rhyw
- Iechyd
- Deallusrwydd
- Hil
- Ymddygiad/agwedd
-
Hunaniaeth ddiwylliannol
Gall hunaniaeth ddiwylliannol gynnwys amrywiaeth mewn:
- Steil ffasiwn ac ymddangosiad corfforol (megis steil gwallt a cholur)
- Credoau diwylliannol – er enghraifft, gwerthoedd teuluol, ymddygiad ac agwedd
- Ethnigrwydd
- Hil
- Hoffderau bwyd
- Traddodiadau – er enghraifft, dathliadau, gwyliau a phriodasau
- Cenedligrwydd
- Ieithoedd