Wrth i chi weithio drwy’r cwrs hwn, byddwch chi’n dysgu am brif gysyniadau cydraddoldeb ac amrywioldeb, gan gynnwys:
Yn yr Uned gyntaf, byddwch chi’n dysgu ystyr y geiriau ‘cydraddoldeb’ ac ‘amrywioldeb’. Hefyd byddwch chi’n deall effaith stereoteipio, labelu, rhagfarn a gwahaniaethu, gan archwilio’r nodweddion gwahanol sy’n ein diffinio fel unigolion.
Ar ddiwedd yr Uned bydd gofyn i chi gwblhau Asesiad a’i anfon at eich athro i’w farcio. Cadwch lygad allan am gliwiau ac awgrymiadau defnyddiol trwy gydol y cwrs, oherwydd bydd y rhain yn help mawr gyda’r Asesiad!
Iawn, bant â ni! Ewch i dudalen 2 i ddysgu am gydraddoldeb.