Beth ydy cydraddoldeb?

Asesiad

Yn eich Asesiad ar ddiwedd yr uned hon, bydd gofyn i chi:

Ddisgrifio ystyr y gair ‘cydraddoldeb’ a diffinio’r termau canlynol:

  • Stereoteipio
  • Rhagfarn
  • Labelu
  • Nodweddion a amddiffynnir
  • Cyfle cyfartal
  • Gweithredu cadarnhaol
  • Gwahaniaethu
  • Gwahaniaethu trwy gysylltiad

Bydd hyn yn eich helpu i fodloni meini prawf 1.1 ac 1.2 ar gyfer yr Uned hon. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y tudalennau sy’n dilyn i’ch helpu gyda rhan yma’r Asesiad.

Meddyliwch yn gyntaf!

Ydych chi’n gwybod ystyr y gair ‘cydraddoldeb’? Ceisiwch ddiffinio’r gair yn y blwch isod cyn symud ymlaen.

Mae’r gair cydraddoldeb yn cyfeirio at rywbeth sy’n gyfartal ac yn deg. Mae’n golygu bod rhywbeth yr un peth â rhywbeth arall.

Mewn cymdeithas, mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau bod pob person yn cael mynediad cyfartal i wasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd. Mae deddfwriaeth bwysig sef Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu unigolion yn erbyn triniaeth annheg (er enghraifft, yn y gweithle, mewn addysg, pan yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, pan yn prynu nwyddau neu wasanaethau) ac yn hyrwyddo cymdeithas deg a chyfartal.

Ar y we!

Gallwch chi ddarllen mwy am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nogfen Triniaeth Cyfartal yr Adran Iechyd.

Pan rydych chi’n dysgu am gydraddoldeb, mae rhai termau pwysig y byddwch chi’n dod ar eu traws (a byddwn yn dysgu am rai ohonynt mewn mwy o fanylder yn ystod y cwrs). Cliciwch drwy’r panel isod i ddarllen diffiniadau defnyddiol o’r termau pwysig sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywioldeb.

  • Stereoteipio

    Mae stereoteip yn syniad sefydlog, cyffredinol am unigolyn neu grwp o bobl sydd â nodwedd gyffredin. Mae stereoteipio yn golygu cymryd yn ganiataol bod pob person mewn grwp penodol yn rhannu’r un rhinweddau neu nodweddion. Er enghraifft, gall rhywun stereoteipio menyw fel person gwan… pan nid dyna’r gwirionedd o gwbl!

  • Rhagfarn

    Rhagfarn ydy barn annheg neu afresymol am berson, sydd wedi’i rhagdybio ac heb sail ffeithiol.

  • Labelu

    Pan nodir bod person yn perthyn i grwp penodol, gallen nhw gael eu labelu ar sail stereoteip sy’n perthyn i’r grwp yna. Er enghraifft, gall unigolyn gael ei labelu yn ôl ei gred grefyddol, ei hil, ei ryw, neu lefel ei addysg.

  • Nodweddion a amddiffynnir

    Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn pennu’r 9 nodwedd canlynol a amddiffynnir:

    • Oed
    • Anabledd
    • Person trawsrywiol
    • Person sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil
    • Person sy’n feichiog neu newydd gael baban
    • Hil
    • Crefydd neu gred
    • Rhyw
    • Tueddfryd rhywiol

    Mae hyn yn golygu ei fod yn anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail unrhyw un o’r nodweddion yma.

  • Cyfle cyfartal

    Mae hyn yn golygu cael eich trin yn deg ac yn gyfartal, heb wahaniaethu (yn enwedig ar sail nodweddion a amddiffynnir). Er enghraifft, dylai pawb gael cyfle cyfartal i fynychu ysgol a derbyn addysg, beth bynnag ei ryw, hil, anabledd neu unrhyw nodwedd arall a amddiffynnir.

  • Gweithredu cadarnhaol

    Dyma pan mae mudiad yn hyrwyddo neu’n cefnogi grwp penodol sydd o dan anfantais oherwydd nodwedd a amddiffynnir. Er enghraifft, gall cyflogwr edrych i gyflogi unigolion o grwpiau lleiafrifol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithle.

  • Gwahaniaethu

    Mae gwahaniaethu yn digwydd pan mae rhywun yn cael ei drin yn llai ffafriol na rhywun arall yn yr un sefyllfa, am resymau yn ymwneud â hil, rhyw, crefydd neu gred, anabledd neu unrhyw nodwedd arall a amddiffynnir.

  • Gwahaniaethu trwy gysylltiad

    Mae hyn yn digwydd pan mae rhywun yn cael ei drin yn annheg oherwydd cysylltiad â pherson sydd â nodwedd a amddiffynnir. Er enghraifft, unigolyn yn cael ei drin yn annheg oherwydd crefydd ei bartner/phartner.